13/08/2026
𝐃𝐢𝐰𝐞𝐝𝐝𝐚𝐫𝐢𝐚𝐝 𝐒𝐢𝐨𝐩 𝐓𝐲𝐰𝐲𝐧
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â ni dros yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â dyfodol ein presenoldeb yn Nhywyn. Roedd angerdd pawb a fynychodd yn drawiadol ac yn galonogol, ac mae'n dangos pam mae cymunedau gwledig mor bwysig i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig.
Yr wythnos hon, rydym wedi parhau i wrando ar farn leol drwy gyfarfodydd a thrafodaethau gyda'r gymuned leol, Shan a’n cydweithwyr yn siop Tywyn, yn ogystal â chynrychiolwyr y Cyngor, er mwyn archwilio’r opsiynau sydd ar gael ac ystyried sut y gallwn barhau i gefnogi’r ardal yn y dyfodol. Roedd cyfraniadau nifer o arweinwyr cymunedol a chynghorwyr lleol yn drawiadol iawn, ac roedd eu dadleuon yn hynod argyhoeddiadol.
Mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn adeiladol ac yn werthfawr wrth inni ystyried y camau nesaf. Rydym yn deall y rôl bwysig y mae Wynnstay yn ei chwarae wrth gefnogi ffermwyr Tywyn a’r gymuned ehangach, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud gan ystyried buddiannau hirdymor ein cydweithwyr, ein cwsmeriaid, ein cymunedau lleol a’n cyfranddalwyr.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i’r trafodaethau a’r cynlluniau ddatblygu.
Diolch am eich cefnogaeth, eich adborth a’ch ymgysylltiad parhaus.
𝗧𝘆𝘄𝘆𝗻 𝗦𝘁𝗼𝗿𝗲 𝗨𝗽𝗱𝗮𝘁𝗲
We would like to thank everyone who has taken the time to engage with us over the past week regarding the future of our presence in Tywyn. The passion of everyone who attended was impressive and heartwarming and highlights why rural communities are so important for Wales and the United Kingdom.
This week, we have continued to listen to local views through meetings and discussions with the local community, Shan and our Tywyn store colleagues, and representatives from the Council to explore the options available and consider how we can continue to support the area in the future.
The input of several community leaders and local councilors was impressive and the arguments very convincing. These conversations have been constructive and valuable as we consider the next steps.
We understand the important role Wynnstay plays in supporting the local Tywyn farmers and the wider community, and we remain committed to ensuring that any decisions are made with the long-term interests of our colleagues, customers, local communities and shareholders in mind.
We will continue to work closely with key stakeholders and will keep you updated as discussions and plans progress.
Thank you for your continued support, feedback and engagement.